2015 Rhif 1028 (Cy. 76)

Y GYMRAEG, CYMRU

Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)

Caiff y Rheolau yma eu llunio gan Lywydd Tribiwnlys y Gymraeg (“y Tribiwnlys”) a’u caniatáu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 123 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’r Rheolau yn gosod yr ymarferion a’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r Tribiwnlys eu dilyn wrth ymarfer ei awdurdodaeth o dan y Mesur.

Mae Rhan A yn cynnwys darpariaethau cyffredinol gan gynnwys dehongliadau, prif amcanion y Tribiwnlys, rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu, ac ieithoedd y Tribiwnlys.

Mae Rhan B yn cynnwys darpariaethau ar sefydlu, ac aelodaeth, panelau tribiwnlys.

Darpariaethau sydd yn Rhan C, am gychwyn ceisiadau i’r Tribiwnlys ac am y cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer gwneud cais, cynnwys ceisiadau, yr hyn sydd angen ei weithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dderbyn y cais, a phenodi cynrychiolwyr i weithredu ar ran partïon.

Mae Rhan D yn cynnwys darpariaethau ar baratoi achos ar gyfer gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i bartïon baratoi datganiadau achos o fewn amser penodol ynghyd â thystiolaeth y dibynnir arno ar gyfer ei gyflwyno i’r Tribiwnlys. Mae hefyd ddarpariaeth yn y Rhan hon yn gofyn i’r dogfennau yma gael eu rhannu â phartïon eraill. Mae’r Rhan hwn hefyd yn caniatáu i Ysgrifennydd y Tribiwnlys wneud ymholiadau i’r partïon mewn perthynas â materion megis cynrychiolaeth a dibyniaeth ar dystion.

Pwerau rheoli’r Tribiwnlys sydd yn cael sylw yn Rhan E. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaeth i ganiatáu i’r Tribiwnlys wneud cyfarwyddiadau mewn perthynas â cheisiadau ar faterion megis gweithdrefnau, tystiolaeth a datgeliad. Mae’r Rhan hwn hefyd yn rhoi i’r Tribiwnlys y pŵer i ddileu cais, gorchymyn materion tebyg i gael eu clywed gyda’i gilydd, ac i ychwanegu neu newid partïon.

Mae Rhan F yn cynnwys darpariaethau ar wrandawiadau a phenderfyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys anghenion ynghylch hysbysu dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiadau, y weithdrefn i’w dilyn mewn gwrandawiad, darpariaeth tystiolaeth mewn gwrandawiad, pan all achos ddigwydd heb wrandawiad, a phenderfyniadau’r Tribiwnlys.

Darpariaethau sydd yn Rhan G ar faterion sy’n codi yn dilyn gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys adolygiadau o benderfyniadau’r Tribiwnlys gan Lywydd y Tribiwnlys a’r pwerau sy’n berthnasol i adolygiad. Mae’r Rhan hwn hefyd yn amlinellu’r gweithdrefnau i’w dilyn mewn achos o orchymyn yr Uchel Lys yn amrywio, rhoi o’r neilltu neu fel arall yn newid penderfyniad gan y Tribiwnlys.

Darpariaethau amrywiol sydd yn Rhan H megis gorchmynion ar gyfer costau a threuliau, cadw a chynnal Cofrestr o geisiadau i’r Tribiwnlys a chyhoeddu’i benderfyniadau.


2015 Rhif 1028 (Cy. 76)

Y GYMRAEG, CYMRU

Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

Gwnaed                                    8 Ebrill 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Ebrill  2015

Yn dod i rym                           30 Ebrill 2015

cynnwys

RHAN A

CYFFREDINOL

1.       Enwi, cychwyn a chymhwyso

2.       Dehongli

3.       Yr amcan pennaf

4.       Cyfarwyddiadau Ymarfer

5.       Rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu

6.       Ieithoedd y Tribiwnlys

7.       Dulliau amgen o ddatrys anghydfod

 

RHAN B

PANELAU TRIBIWNLYS

8.       Sefydlu panelau tribiwnlys

9.       Aelodaeth panel tribiwnlys

 

RHAN C

CYCHWYN CEISIADAU

10.     Cychwyn cais

11.     Cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer gwneud cais

12.     Hysbysiad cais

13.     Gweithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

14.     Cais sy’n cael ei wneud y tu allan i’r amser

15.     Digonolrwydd y rhesymau

16.     Rhoi neu wrthod caniatâd i wneud cais am adolygiad o benderfyniad gan y Comisiynydd

17.     Penodi cynrychiolwyr

 

RHAN D

PARATOI ACHOS AR GYFER GWRANDAWIAD

 

18.     Cyfnod datganiad achos y ceisydd

19.     Datganiad achos a thystiolaeth y ceisydd

20.     Datganiad achos a thystiolaeth y Comisiynydd

21.     Datganiad achos y ceisydd mewn ymateb

22.     Copïau o ddogfennau i’r partïon

23.     Methiant ar ran y Comisiynydd i gyflwyno datganiad achos ac absenoldeb gwrthwynebiad

24.     Ymholiadau gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

25.     Methiant i ymateb i ymholiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

 

RHAN E

PWERAU RHEOLI’R TRIBIWNLYS

26.     Cyfarwyddiadau

27.     Amrywio cyfarwyddiadau neu eu gosod o’r neilltu

28.     Pŵer i ddileu’r cais

29.     Gorchymyn i ddiwygio datganiad achos

30.     Tystiolaeth a chyflwyniadau

31.     Manylion a datganiadau atodol

32.     Datgelu dogfennau a deunydd arall

33.     Methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau

34.     Ceisiadau sydd, at ei gilydd, yn codi’r un cwestiwn

35.     Ychwanegu ac amnewid partïon

 

RHAN F

GWRANDAWIADAU A PHENDERFYNIADAU

36.     Hysbysu dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiadau

37.     Pŵer i benderfynu cais heb wrandawiad

38.     Gwrandawiadau cyhoeddus

39.     Y weithdrefn mewn gwrandawiad

40.     Tystiolaeth mewn gwrandawiad

41.     Gwysio tyst

42.     Tystiolaeth dros y teleffon, cyswllt fideo neu ddulliau eraill

43.     Gohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn

44.     Gohiriadau a chyfarwyddiadau canlyniadol

45.     Cynrychioli mewn gwrandawiad

46.     Methiant i fod yn bresennol mewn gwrandawiad

47.     Penderfyniad y panel tribiwnlys

 

RHAN G

AR ÔL Y GWRANDAWIAD

48.     Cais neu gynnig am adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys

49.     Adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys i beidio ag estyn y cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer cychwyn achos

50.     Ystyried cais am ganiatâd i apelio i’r Uchel Lys

51.     Pŵer i atal dros dro benderfyniad y Tribiwnlys

52.     Gorchmynion yr Uchel Lys

 

RHAN H

AMRYWIOL

53.     Estyn yr amser

54.     Tynnu yn ôl

55.     Gorchmynion ar gyfer costau a threuliau

56.     Pŵer i arfer swyddogaethau

57.     Ysgrifennydd y Tribiwnlys

58.     Y Gofrestr

59.     Cyhoeddi

60.     Afreoleidd-dra

61.     Profi dogfennau ac ardystio penderfyniadau

62.     Y dull o anfon, rhoi neu gyflwyno hysbysiadau a dogfennau

63.     Cyfrifo amser

64.     Llofnodi dogfennau

Mae Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 123(1) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]) yn gwneud y Rheolau canlynol:

Mae Gweinidogion Cymru yn caniatáu’r Rheolau hyn o dan adran 123(7) o’r Mesur;

RHAN A

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015.

(2) Maent yn dod i rym ar 30 Ebrill  2015.

(3) Maent yn gymwys i bob achos gerbron y Tribiwnlys.

Dehongli

2. Yn y Rheolau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “achos” (“case”) yw trafodion sy’n ymwneud â chais i’r Tribiwnlys;

ystyr “cais” (“application”) yw—

(a)     apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 58, 95(2), 95(4) neu 99 o’r Mesur yn erbyn penderfyniad gan y Comisiynydd, neu

(b)     cais i’r Tribiwnlys o dan adran 103 o’r Mesur i adolygu penderfyniad gan y Comisiynydd;

ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw person sydd wedi cael ei benodi i gadeirio panel tribiwnlys o dan reol 9;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais i’r Tribiwnlys;

ystyr “Comisiynydd” (“Commissioner”) yw Comisiynydd y Gymraeg;

ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol ei chadw o dan reol 58;

mae i “cyfarwyddiadau ymarfer” (“practice directions”)yr ystyr sy’n cael ei roi gan reol 4;

ystyr “cyfeiriad e-bost” (“email address”) person yw cyfeiriad post electronig personol y person hwnnw;

ystyr “cyfnod datganiad achos” (“case statement period”) yw’r cyfnod sy’n cael ei bennu gan reol 18, 20 neu 21;

ystyr “datganiad achos” (“case statement”) yw datganiad sy’n cael ei gyflwyno’n unol â rheol 19, 20 neu 21;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—

(a)     dydd Sadwrn,

(b)     dydd Sul,

(c)     unrhyw ddiwrnod o 25 Rhagfyr i 1 Ionawr yn gynwysedig,

(d)     dydd Gwener y Groglith, neu

(e)     diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([2]):

ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw beth sydd â gwybodaeth o unrhyw ddisgrifiad wedi ei gofnodi ynddo;

ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad gerbron y Tribiwnlys at y diben o alluogi’r Llywydd, Cadeirydd neu banel tribiwnlys i gyrraedd penderfyniad ar gais neu ar unrhyw gwestiwn neu fater, lle mae hawl gan y partïon i fod yn bresennol a chael eu clywed; mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyswllt fideo, ar y teleffon neu drwy ddull arall o gyfathrebu electronig dwyffordd disymwth;

ystyr “gwŷs tyst” (“witness summons”) yw dogfen sydd wedi ei dyroddi gan y Tribiwnlys sy’n ei gwneud yn ofynnol bod tyst yn bresennol mewn gwrandawiad i roi tystiolaeth neu ddangos dogfennau mewn perthynas â chais i’r Tribiwnlys;

mae i “ieithoedd y Tribiwnlys” (“languages of the Tribunal”) yr ystyr sy’n cael ei roi gan reol 6;

mae i “hysbysiad cais” (“notice of application”) yr ystyr sy’n cael ei roi gan reol 10;

mae i “llofnod electronig” yr ystyr sy’n cael ei roi i “electronic signature” gan adran 7 o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000([3]):

ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd y Tribiwnlys sydd wedi cael ei benodi o dan adran 120 o’r Mesur;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;

ystyr “panel tribiwnlys” (“tribunal panel”) yw panel o aelodau’r Tribiwnlys sydd wedi cael ei benodi’n unol â rheol 9;

ystyr “parti” (“party”) yw’r ceisydd, y Comisiynydd neu barti sy’n cael ei ychwanegu o dan reol 35;

ystyr “penderfyniad sy’n cael ei herio” (“disputed decision”) yw’r penderfyniad, neu’r methiant i wneud penderfyniad, y mae’r cais wedi cael ei ddwyn mewn perthynas ag ef;

mae “sylwadau llafar” (“oral representations”) yn cynnwys tystiolaeth sy’n cael ei roi, oherwydd amhariad ar leferydd neu glyw, gan berson sy’n defnyddio iaith arwyddion;

ystyr “y Tribiwnlys” (“the Tribunal”) yw Tribiwnlys y Gymraeg neu unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau’r Tribiwnlys yn unol â’r Rheolau hyn;

mae “tystiolaeth” (“evidence”) yn cynnwys deunydd o unrhyw ddisgrifiad, sy’n cael ei gofnodi ar unrhyw ffurf;

mae cyfeiriadau, yn rheolau 51 a 52, at “yr Uchel Lys” (“the High Court”) yn cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw apeliadau pellach oddi wrth yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl, y Llys Apêl neu’r Goruchaf Lys, yn ôl y drefn;

ystyr “Ysgrifennydd y Tribiwnlys” (“Secretary of the Tribunal”) yw’r person sydd am y tro yn gweithredu fel Ysgrifennydd swyddfa’r Tribiwnlys.

Yr amcan pennaf

3.(1)(1) Amcan pennaf y Rheolau hyn (“yr amcan pennaf”) yw galluogi’r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion yn deg a chyfiawn.

(2) Mae ymdrin ag achos yn deg a chyfiawn yn cynnwys—

(a)     ymdrin â’r achos mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos a chymhlethdod y materion dan sylw,

(b)     osgoi, i’r graddau y mae’r Tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol, ffurfioldeb diangen,

(c)     sicrhau, i’r graddau y mae’n ymarferol, bod y partïon yn cael eu trin yn gyfartal o ran trefniadaeth a’u bod yn gallu cyfranogi’n llawn yn yr achos, gan gynnwys hwyluso unrhyw barti i gyflwyno unrhyw gais neu apêl, ond heb argymell pa drywydd y dylai’r parti hwnnw ei ddilyn,

(d)     trin ieithoedd y Tribiwnlys yn gyfartal,

(e)     defnyddio arbenigedd neilltuol y Tribiwnlys yn effeithiol, a

(f)      osgoi oedi, i’r graddau sy’n gyson â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion dan sylw.

(3) Rhaid i’r Tribiwnlys geisio rhoi effaith i’r amcan pennaf pan fydd y Tribiwnlys—

(a)     yn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rheolau hyn, neu

(b)     yn dehongli unrhyw reol.

(4) Yn benodol, rhaid i’r Tribiwnlys gymryd camau ymarferol i reoli achosion yn unol â’r amcan pennaf.

Cyfarwyddiadau Ymarfer

4.(1)(1) At ddibenion y Rheolau hyn ystyr “cyfarwyddiadau ymarfer” (“practice directions”) yw cyfarwyddiadau ymarfer sy’n cael eu rhoi gan y Llywydd, o dan adran 124 o’r Mesur er mwyn rhoi cyngor ymarferol ar sut i ddehongli a gweithredu’r Rheolau hyn.

(2) Caiff cyfarwyddiadau ymarfer o dan baragraff (1) amrywio neu ddirymu cyfarwyddiadau ymarfer sydd eisoes yn bod.

(3) Rhaid i’r Tribiwnlys gyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer a gafodd eu gwneud o dan baragraff (1), ac unrhyw amrywiad neu ddirymiad o gyfarwyddyd ymarfer, yn y modd sy’n briodol ym marn y Llywydd.

(4) Mae darpariaethau unrhyw gyfarwyddyd ymarfer yn ddarostyngedig, mewn unrhyw achos penodol, i unrhyw gyfarwyddiadau sy’n cael eu rhoi o dan reol 26 mewn perthynas â’r achos hwnnw.

Rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu

5.(1)(1) Rhaid i’r partïon—

(a)     cydweithredu â’i gilydd er mwyn gyrru’r achos yn ei flaen,

(b)     cydweithredu drwy roi dogfennau neu wybodaeth i’w gilydd, er mwyn galluogi pob parti i baratoi datganiad achos,

(c)     cynorthwyo’r Tribiwnlys i hyrwyddo’r amcan pennaf, a

(d)     cydweithredu â’r Tribiwnlys yn gyffredinol.

(2) Caiff y Tribiwnlys dynnu pa bynnag gasgliadau anffafriol sy’n cael eu hystyried yn briodol gan y Tribiwnlys, o fethiant parti i gydymffurfio ag unrhyw un o’r rhwymedigaethau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (1).

(3) Pan fo’r Tribiwnlys yn tynnu casgliad anffafriol o dan baragraff (2), caiff y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i’r parti diffygiol bod y Tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn i ddileu—

(a)     y cais, os y ceisydd yw’r parti diffygiol,

(b)     y datganiad achos a’r dystiolaeth ysgrifenedig, os y Comisiynydd neu barti arall yw’r parti diffygiol.

(4) Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (3) wahodd sylwadau a rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud.

(5) At ddibenion y rheol hon—

(a)     rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti diffygiol y caiff y parti hwnnw, o fewn cyfnod (ddim hwyrach na 10 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)     bydd sylwadau wedi eu gwneud—

                           (i)    yn achos sylwadau ysgrifenedig, os ydynt yn cael eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a

                         (ii)    yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(6) Caiff y Tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau sydd wedi’u gwneud gan y parti diffygiol, orchymyn dileu achos y parti hwnnw.

Ieithoedd y Tribiwnlys

6.(1)(1) Ieithoedd y Tribiwnlys yw’r Gymraeg a’r Saesneg.

(2) Mae gan bob parti neu dyst yr hawl i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall yn nhrafodion y Tribiwnlys ac wrth gyfathrebu gyda’r Tribiwnlys, a chaiff parti neu dyst ddefnyddio un ohonynt ar achlysur neu at bwrpas penodol a’r llall ar achlysuron neu at bwrpasau eraill.

(3) Rhaid i’r Llywydd roi cyfarwyddyd ymarfer o dan reol 4 mewn perthynas â gweithredu’r rheol hon.

(4) Pan fydd dogfen yn cael ei dyroddi gan y Tribiwnlys o dan y Rheolau hyn yn y ddwy iaith, rhaid trin y testunau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal.

(5) Nid yw paragraff (4) yn rhagfarnu pŵer y Tribiwnlys i gywiro camgymeriadau clerigol a gwallau eraill o dan reol 60(3).

Dulliau amgen o ddatrys anghydfod

7.(1)(1) Rhaid i’r Tribiwnlys, pan fo’n briodol, dynnu sylw’r partïon at unrhyw weithdrefn amgen briodol sydd ar gael i ddatrys yr anghydfod.

(2) Os yw’r partïon yn dymuno defnyddio’r weithdrefn amgen i ddatrys yr anghydfod, caiff y Tribiwnlys, ar yr amod bod hynny’n gyson â’r amcan pennaf, ohirio ystyriaeth o’r cais.

RHAN B

PANELAU TRIBIWNLYS

Sefydlu panelau tribiwnlys

8.(1)(1) Penodir panelau tribiwnlys, sy’n arfer swyddogaethau’r Tribiwnlys o dan y Rheolau hyn, gan y Llywydd o dan reol 9.

(2) Byddant yn eistedd ar yr adegau, ac yn y mannau, sy’n cael eu penderfynu o bryd i’w gilydd gan y Llywydd.

Aelodaeth panel tribiwnlys

9.(1)(1) Yn ddarostyngedig i reol 39(5), rhaid i banel tribiwnlys gael ei gyfansoddi o dri aelod o’r Tribiwnlys, sef—

(a)     Cadeirydd y panel, a

(b)     dau aelod arall.

(2) Rhaid i aelodau’r panel tribiwnlys, a Chadeirydd y panel, gael eu penodi gan y Llywydd; ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).

(3) Rhaid i’r Cadeirydd fod yn naill ai’r Llywydd neu’n aelod arall o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith.

(4) Rhaid i’r ddau aelod arall gynnwys o leiaf un aelod lleyg o’r Tribiwnlys.

(5) Rhaid i’r Llywydd arfer y pŵer o dan baragraff (2) gyda golwg ar osgoi unrhyw wrthdrawiad rhwng buddiant unrhyw aelod o’r panel sydd i wrando achos a dyletswydd y Tribiwnlys i drin yr achos hwnnw yn unol â’r amcan pennaf.

(6) Os bydd amgylchiadau a fyddai, yn unol â pharagraff (5) yn gwahardd y Llywydd rhag bod yn aelod o banel, rhaid i’r Llywydd ystyried a yw’r amgylchiadau hynny’n ei wneud yn annymunol fod y Llywydd yn arfer y pŵer o dan baragraff (2) i benodi aelodau’r panel hwnnw; os felly, rhaid i’r Llywydd ddynodi aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith, ac nad oes amgylchiadau tebyg yn perthyn iddo, a chaiff y pŵer o dan baragraff (2) gael ei arfer gan yr aelod hwnnw.

RHAN C

CYCHWYN CEISIADAU

Cychwyn cais

10. Rhaid gwneud cais i’r Tribiwnlys drwy gyflwyno i’r Tribiwnlys ddogfen ysgrifenedig, sy’n cael ei chyfeirio ati fel hysbysiad cais, yn unol â’r Rheolau hyn.

Cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer gwneud cais

11.(1)(1) Rhaid i hysbysiad cais ddod i law’r Tribiwnlys ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad pan roddwyd i’r ceisydd yr hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad ar ran y Comisiynydd sy’n cael ei herio.

(2) Yn ddarostyngedig i reol 14, ni chaiff y Tribiwnlys ystyried cais oni chafodd ei gychwyn yn unol â pharagraff (1).

Hysbysiad cais

12.(1)(1) Rhaid i’r hysbysiad cais ddatgan—

(a)     enw a chyfeiriad y ceisydd, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw,

(b)     enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd sydd wedi ei benodi gan y ceisydd, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw,

(c)     cyfeiriad ac, os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y ceisydd,

(d)     y dyddiad y cafodd y ceisydd gadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad sy’n cael ei herio,

(e)     y rheswm neu’r rhesymau dros wneud y cais,

(f)      y canlyniad mae’r ceisydd am gael, a

(g)     yr iaith y mae’r ceisydd, neu gynrychiolydd y ceisydd, os oes un, yn dymuno derbyn cyfathrebiadau oddi wrth y Tribiwnlys ynddi.

(2) Rhaid cyflwyno’r hysbysiad cais ynghyd â chopi o hysbysiad o’r penderfyniad sy’n cael ei herio.

(3) Rhaid i’r hysbysiad cais gael ei lofnodi gan y ceisydd, neu gan gynrychiolydd y person hwnnw, os oes un.

(4) Os yw’r ceisydd yn dymuno gofyn i’r Tribiwnlys arfer y pŵer o dan reol 14 i ystyried y cais er iddo ddod i law’r Tribiwnlys ar ôl yr amser sy’n cael ei bennu gan reol 11(1), rhaid i’r hysbysiad cais—

(a)     gwneud hynny’n glir, a

(b)     cynnwys datganiad o’r rhesymau pam y dylai’r Tribiwnlys arfer y pŵer hwnnw.

Gweithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

13.(1)(1) Pan ddaw’r hysbysiad cais i law, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—

(a)     cofnodi ei fanylion yn y Gofrestr, a

(b)     anfon at y ceisydd—

                           (i)    cydnabyddiaeth o’i dderbyn a nodyn o rif yr achos sydd wedi cael ei gofnodi yn y Gofrestr,

                         (ii)    nodyn o’r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys,

                       (iii)    hysbysiad bod modd cael cyngor ynghylch gweithdrefnau’r Tribiwnlys o swyddfa’r Tribiwnlys,

                        (iv)    yn ddarostyngedig i reol 18(2) a (3), hysbysiad sy’n datgan yr amser sy’n cael ei ganiatáu o dan reol 18 ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth y ceisydd, a

                          (v)    datganiad o’r canlyniadau posibl i’r cais os na fydd parti’n cydymffurfio â rheol 5 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).

(2) Yr un pryd ag y bydd yr hysbysiad sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (1)(b)(iv) yn cael ei anfon at y ceisydd, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon at y Comisiynydd—

(a)     copi o’r hysbysiad cais ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig,

(b)     nodyn o’r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys,

(c)     hysbysiad sy’n datgan yr amser ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth y Comisiynydd o dan reol 20(1), a’r canlyniadau os na fydd hynny’n cael ei wneud,

(d)     datganiad o’r canlyniadau posibl i’r achos os nad yw parti’n cydymffurfio â rheol 5 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu), a

(e)     yn achos apêl o dan adrannau 95(2) neu 99 o’r Mesur, cais i’r Comisiynydd ddatgelu i’r Tribiwnlys manylion cyswllt y person neu’r personau a wnaeth y cwyn perthnasol (yn achos apêl o dan adran 95(2)) neu rhai’r person y bu’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef (yn achos apêl o dan adran 99).

(3) Pan fo’r Tribiwnlys o’r farn, ar sail yr hysbysiad cais, bod y ceisydd yn gofyn i’r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i bwerau’r Tribiwnlys, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn hytrach na rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan baragraff (1), roi hysbysiad i’r ceisydd —

(a)     sy’n datgan y rhesymau dros y farn honno, a

(b)     sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd—

                           (i)    na fydd y cais yn cael ei gofnodi yn y Gofrestr oni fydd y ceisydd yn gwneud cais ysgrifenedig i’r Tribiwnlys am ganiatâd i fynd ymlaen â’r cais, a’r Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd, a

                         (ii)    y bydd yr hysbysiad cais yn cael ei ddileu oni fydd y ceisydd wedi gwneud cais, o fewn 3 mis iddo dderbyn hysbysiad o dan y paragraff hwn, am ganiatâd i fynd ymlaen â’r cais, neu os bydd cais felly wedi cael ei wrthod.

(4) Caiff y Tribiwnlys, cyn penderfynu unrhyw gais o dan baragraff (3), wahodd sylwadau ysgrifenedig, neu sylwadau ysgrifenedig pellach, oddi wrth y ceisydd, y Comisiynydd, neu unrhyw berson arall sydd, ym marn y Tribiwnlys, â diddordeb digonol yn yr achos.

(5) Os yw’r Tribiwnlys, ar ôl ystyried cais o dan baragraff (3), yn rhoi caniatâd i fynd ymlaen â’r cais rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys drin yr hysbysiad cais fel un sydd wedi ei gael at ddibenion paragraff (1), a’i gofnodi yn y Gofrestr yn unol â’r paragraff hwnnw.

(6) Caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys gywiro unrhyw wall amlwg yn yr hysbysiad cais os yw’n ymddangos i’r Ysgrifennydd fod y gwall hwnnw wedi ei achosi gan lithriad neu hepgoriad damweiniol.

(7) Pan fo gwall wedi ei gywiro yn unol â pharagraff (6), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r ceisydd o’r cywiriad, a datgan effaith paragraff (8).

(8) Rhaid trin yr hysbysiad cais fel y bydd wedi ei gywiro fel yr hysbysiad cais at ddibenion y Rheolau hyn, oni fydd y ceisydd yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ei fod yn gwrthwynebu’r cywiriad, o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl rhoi’r hysbysiad o dan baragraff (7).

(9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) a (11), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â’r cais at y ceisydd.

(10) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os bydd y ceisydd wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod rhaid anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â’r cais at y cynrychiolydd yn hytrach nag at y ceisydd.

(11) Os bydd paragraff (10) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheolau hyn (sut bynnag y maent yn cael eu mynegi) at anfon dogfennau at y ceisydd, neu roi hysbysiad i’r ceisydd, fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at y cynrychiolydd neu roi hysbysiad i’r cynrychiolydd.

(12) Os daw manylion cyswllt person i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys mewn ymateb i gais i’r Comisiynydd o dan baragraff (2)(e), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, mor fuan â phosibl, anfon copi o’r hysbysiad cais i’r person o dan sylw a’i hysbysu o’r hawl i wneud cais i gael ei ychwanegu fel parti o dan reol 35.

Cais sy’n cael ei wneud y tu allan i’r amser

14.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys ystyried unrhyw gais sy’n dod i law’r Tribiwnlys ar ôl diwedd y cyfnod sy’n cael ei bennu gan reol 11(1) os yw’r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)     dros y methiant i wneud y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)     os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gofyn am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, dros yr oedi hwnnw.

(2) Caiff y Tribiwnlys geisio gwybodaeth bellach gan y ceisydd cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1).

Digonolrwydd y rhesymau

15.(1)(1) Os nad yw’r datganiad o’r rhesymau dros wneud y cais sy’n cael ei gynnwys yn yr hysbysiad cais, neu sy’n cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiad cais, yn ddigonol ym marn y Tribiwnlys i alluogi’r Comisiynydd i ymateb i’r cais, rhaid i’r Tribiwnlys gyfarwyddo’r ceisydd i anfon manylion, neu fanylion pellach, o’r rhesymau hynny at Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl rhoi’r cyfarwyddyd.

(2) Mae rheol 33 yn gymwys i gyfarwyddyd o dan baragraff (1).

(3) Mae unrhyw resymau sy’n cael eu hanfon mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan baragraff (1) i’w trin fel pe baent yn rhan o’r hysbysiad cais.

Rhoi neu wrthod caniatâd i wneud cais am adolygiad o benderfyniad gan y Comisiynydd

16.(1)(1) Os daw i law’r Tribiwnlys hysbysiad cais sy’n cynnwys cais am adolygiad, o dan adran 103 o’r Mesur, o benderfyniad gan y Comisiynydd, ni ystyrir, at bwrpas rheol 13, fod y cais hwnnw wedi dod i law hyd nes bydd y Tribiwnlys wedi penderfynu—

(a)     bod disgwyliad rhesymol y bydd y cais yn llwyddo, neu

(b)     bod rhyw reswm cryf arall pam y dylai’r cais gael ei glywed.

(2) Os yw’r Tribiwnlys o’r farn fod paragraff (1)(a) neu (1)(b) yn gymwys, rhaid i’r Tribiwnlys roi caniatâd i’r cais gael ei wneud a rhaid iddo wedyn gael ei drin fel un a ddaeth i law, at bwrpas rheol 13, a rhaid iddo gael ei ystyried ymhellach yn unol â’r Rheolau hyn.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad yw’r Tribiwnlys o’r farn fod naill ai paragraff 1(a) neu 1(b) yn gymwys, rhaid i’r Tribiwnlys wrthod caniatâd i’r cais gael ei wneud ac ni fydd y cais yn cael ei ystyried ymhellach.

(4) Os yw’r cais wedi ei seilio ar fwy nac un sail, ac os yw’r Tribiwnlys yn penderfynu bod gofynion paragraff (2) wedi’u diwallu mewn perthynas ag un neu ragor o’r seiliau hynny, ond nid mewn perthynas â gweddill y seiliau, rhaid i’r Tribiwnlys roi caniatâd i’r cais gael ei wneud ar yr amod y bydd ystyriaeth bellach ohono’n cael ei chyfyngu i’r sail neu seiliau perthnasol.

(5) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, mor fuan ag sy’n ymarferol—

(a)     hysbysu’r ceisydd a’r Comisiynydd o benderfyniad y Tribiwnlys o dan baragraff (1), a

(b)     cofnodi’r penderfyniad hwnnw yn y Gofrestr.

(6) Rhaid i hysbysiad sy’n cael ei roi o dan baragraff (5)—

(a)     cynnwys rhesymau’r Tribiwnlys dros ddod i’w benderfyniad, a

(b)     cynnwys canllawiau, mewn ffurf a gymeradwywyd gan y Llywydd, am—

                           (i)    yr amgylchiadau sy’n rhoi hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, a

                         (ii)    y weithdrefn mae’n rhaid ei dilyn.

(7) Caiff swyddogaeth y Tribiwnlys o dan baragraff (1) ei harfer—

(a)     gan y Llywydd, neu gan aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith, ac sydd wedi ei awdurdodi gan y Llywydd i arfer y swyddogaeth honno, a

(b)     heb wrandawiad.

(8) Os bydd caniatâd i’r cais gael ei wneud—

(a)     wedi ei wrthod o dan baragraff (3), neu

(b)     wedi ei roi’n amodol o dan baragraff (4),

caiff y ceisydd hawlio bod y penderfyniad hwnnw’n cael ei ail-ystyried gan banel tribiwnlys mewn gwrandawiad.

(9) Rhaid i hawliad o dan baragraff (8) gael ei hysbysu mewn ysgrifen a dod i law’r Tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i’r diwrnod rhaid ystyried, yn unol â rheol 62, fod y ceisydd wedi cael yr hysbysiad arno o dan baragraff (5).

(10) Mae paragraffau (1) i (4), a rheolau 36 (ac eithrio paragraff (4)(b)(ii)), 38, 39(1), (2) a (5), 43, 44, 45, 46 a 47 yn gymwys i wrandawiad o dan baragraff (8).

(11) Os bydd panel tribiwnlys, ar ôl gwrandawiad o dan baragraff (8), o’r farn—

(a)     nad oes disgwyliad rhesymol y byddai’r cais am adolygiad yn llwyddo, a

(b)     nad oes unrhyw reswm cryf arall pam y dylai’r cais gael ei glywed,

rhaid i’r panel roi caniatâd ffurfiol i wneud y cais am adolygiad ond wedyn gwrthod y cais hwnnw.

Penodi cynrychiolwyr

17.(1)(1) Heb ragfarnu rheol 12(1)(b), caiff unrhyw barti, trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg yn ddiweddarach—

(a)     penodi cynrychiolydd,

(b)     penodi cynrychiolydd arall i gymryd lle’r cynrychiolydd a gafodd ei benodi yn flaenorol ac y mae ei benodiad yn cael ei ddiddymu gan y penodiad diweddarach,

(c)     datgan nad oes unrhyw berson yn gweithredu fel cynrychiolydd y parti hwnnw, gan ddiddymu unrhyw benodiad blaenorol.

(2) Pan fo penodiad yn cael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i’r parti perthnasol roi enw, cyfeiriad, a manylion cyswllt y cynrychiolydd a benodwyd.

RHAN D

PARATOI ACHOS AR GYFER GWRANDAWIAD

Cyfnod datganiad achos y ceisydd

18.(1)(1) Y cyfnod datganiad achos, ar gyfer y ceisydd, yw cyfnod o 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd hysbysiad, a roddwyd o dan reol 13(1)(b)(iv), yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r ceisydd yn unol â rheol 63.

(2) Os yw’r Tribiwnlys yn gwneud cyfarwyddyd mewn perthynas â chais yn unol â rheol 15, ni fydd y cyfnod sy’n cael ei bennu ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at y ceisydd fel sy’n ofynnol gan reol 13(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau fel sy’n ofynnol gan reol 13(2), hyd nes y bydd rhesymau wedi’u cael mewn ymateb i’r cyfarwyddyd.

(3) Heb ragfarnu paragraff (2), os yw’r cais yn un am adolygiad gan y Tribiwnlys, o dan adran 103 o’r Mesur, o benderfyniad, neu fethiant i wneud penderfyniad, gan y Comisiynydd, ni fydd y cyfnod sy’n cael ei bennu ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at y ceisydd fel sy’n ofynnol gan reol 13(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau fel sy’n ofynnol gan reol 13(2), hyd nes y bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd, o dan reol 16, i’r cais gael ei wneud.

Datganiad achos a thystiolaeth y ceisydd

19.(1)(1) Rhaid i’r ceisydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—

(a)     datganiad achos, a

(b)     pob tystiolaeth arall y mae’r ceisydd yn bwriadu dibynnu arni ac na chafodd ei chyflwyno eisoes.

(2) Os bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd, caiff y ceisydd —

(a)     diwygio’r hysbysiad cais,

(b)     cyflwyno datganiad atodol o resymau sy’n cefnogi’r cais,

(c)     diwygio datganiad atodol o resymau sy’n cefnogi’r cais,

(d)     cyflwyno datganiad achos atodol,

(e)     diwygio datganiad achos atodol.

(3) Rhaid i’r ceisydd gyflwyno copi i Ysgrifennydd y Tribiwnlys o bob diwygiad a datganiad atodol y bydd caniatâd wedi ei roi ar ei gyfer o dan baragraff (2), o fewn y cyfnod o amser sydd wedi cael ei ganiatáu.

(4) Pan fo caniatâd o dan baragraff (2) yn cael ei roi, caiff y Tribiwnlys, os bydd angen, estyn y cyfnod datganiad achos, o dan reol 53 neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag gyfnod pellach sy’n cael ei ystyried yn briodol gan y Tribiwnlys.

(5) Os yw’r Comisiynydd, pan fydd caniatâd o dan baragraff (2) yn cael ei roi, wedi colli’r hawl i fod yn bresennol neu gael cynrychiolydd yn y gwrandawiad, yn unol â rheolau 23, 25 neu 33, bydd rhoi’r caniatâd yn adfer yr hawl honno ac, os bydd angen, gall y gwrandawiad, neu weddill y gwrandawiad, gael ei ohirio neu ei oedi, fel sy’n briodol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer y Comisiynydd.

Datganiad achos a thystiolaeth y Comisiynydd

20.(1)(1) Y cyfnod datganiad achos, ar gyfer y Comisiynydd, yw cyfnod o 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd datganiad achos y ceisydd yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r Comisiynydd, yn unol â rheol 63.

(2) Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—

(a)     copi o’r penderfyniad sy’n cael ei herio,

(b)     datganiad achos, a

(c)     pob tystiolaeth arall y mae’r Comisiynydd yn bwriadu dibynnu arni ac na chafodd ei chyflwyno eisoes.

(3) Rhaid i ddatganiad achos y Comisiynydd gael ei lofnodi gan berson a awdurdodwyd i lofnodi dogfennau o’r fath ar ran y Comisiynydd, a rhaid i’r datganiad achos hwnnw ddatgan a yw’r Comisiynydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais ai peidio.

(4) Os yw’r Comisiynydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais, rhaid i ddatganiad achos y Comisiynydd ddatgan—

(a)     ar ba seiliau y mae’r Comisiynydd yn gwrthwynebu’r cais, neu unrhyw ran o’r cais,

(b)     enw a chyfeiriad cynrychiolydd y Comisiynydd ac, os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd,

(c)     y cyfeiriad lle y dylid anfon neu ddanfon dogfennau ar gyfer y Comisiynydd,

(d)     crynodeb o’r ffeithiau mewn perthynas â’r penderfyniad sy’n cael ei herio, a

(e)     y rheswm neu’r rhesymau dros y penderfyniad sy’n cael eu herio os nad yw’r rheswm neu’r rhesymau’n gynwysedig yn yr hysbysiad o’r penderfyniad.

(5) Caiff y Comisiynydd ddiwygio datganiad achos y Comisiynydd, cyflwyno datganiad achos atodol, neu ddiwygio datganiad achos atodol, os bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd.

(6) Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gopi o bob diwygiad a datganiad atodol y bydd caniatâd wedi ei roi ar ei gyfer o dan baragraff (5), o fewn y cyfnod o amser sydd wedi cael ei ganiatáu.

(7) Os bydd caniatâd wedi cael ei roi o dan baragraff (5), caiff y Tribiwnlys estyn y cyfnod datganiad achos o dan reol 53, neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag gyfnod pellach sy’n cael ei ystyried yn briodol gan y Tribiwnlys.

(8) Os yw’r ceisydd, pan fydd caniatâd yn cael ei roi o dan baragraff (5), wedi colli’r hawl i fod yn bresennol neu gael cynrychiolydd yn y gwrandawiad yn unol â rheol 25, bydd rhoi’r caniatâd yn adfer yr hawl honno ac, os bydd angen, gall gwrandawiad, neu weddill y gwrandawiad, gael ei ohirio neu ei oedi, fel sy’n briodol, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer y ceisydd.

Datganiad achos y ceisydd mewn ymateb

21.(1)(1) Caiff y ceisydd, cyn diwedd y cyfnod sy’n cael ei ragnodi gan baragraff (2), gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ddatganiad achos sy’n ymateb i’r hwnnw sy’n eiddo i’r Comisiynydd.

(2) Y cyfnod sy’n cael ei ragnodi gan baragraff (1) yw 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd datganiad achos y Comisiynydd yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r ceisydd yn unol â rheol 62.

Copïau o ddogfennau i’r partïon

22.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—

(a)     anfon copi at y Comisiynydd o unrhyw ddiwygiad i’r hysbysiad cais a ddaw i law yn ystod y cyfnod datganiad achos,

(b)     anfon copi o ddatganiad achos a thystiolaeth ysgrifenedig y naill barti at y llall, a

(c)     anfon ar unwaith at y parti arall gopïau o unrhyw ddiwygiadau neu ddatganiadau atodol, sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig neu ddogfennau eraill a ddaw i law o barti ar ôl diwedd y cyfnod datganiad achos.

(2) Os bydd hysbysiad cais, datganiad achos, diwygiad, datganiad atodol, sylw ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig neu ddogfen arall yn cael eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ôl yr amser sy’n cael ei ragnodi gan y Rheolau hyn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon copi o’r hyn sydd wedi ei gyflwyno felly at y parti arall, oni fydd y terfyn amser wedi ei estyn gan y Tribiwnlys o dan reol 53.

(3) Pan fo Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn anfon unrhyw gopïau o ddogfennau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) at barti sydd eisoes wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys, wrth ymateb i ymholiadau a wnaed o dan reol 24(a)(i) a (ii), nad yw’r parti’n dymuno bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ofyn a yw’r parti’n dymuno newid yr ymateb hwnnw ar sail y dogfennau hynny.

Methiant ar ran y Comisiynydd i gyflwyno datganiad achos neu absenoldeb gwrthwynebiad

23.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys benderfynu’r cais, heb wrandawiad neu drwy gynnal gwrandawiad—

(a)     os na fydd Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi cael datganiad achos gan y Comisiynydd o fewn y cyfnod datganiad achos,

(b)     os yw’r Comisiynydd wedi datgan mewn ysgrifen nad yw am wrthwynebu’r cais, neu

(c)     os yw’r Comisiynydd yn tynnu’n ôl gwrthwynebiad i’r cais.

(2) Pan fo’r Tribiwnlys yn penderfynu’r cais heb wrandawiad, rhaid iddo wneud hynny ar sail yr hysbysiad cais ac unrhyw ddogfennau eraill a ddaeth i law.

(3) Os yw’r Tribiwnlys yn penderfynu cynnal gwrandawiad yn unol â pharagraff (1), caiff ddyroddi cyfarwyddyd sy’n gwahardd y Comisiynydd rhag bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael cynrychiolaeth yn y gwrandawiad.

Ymholiadau gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

24. Caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg ar ôl cael yr hysbysiad cais—

(a)     gofyn i bob parti—

                           (i)    pa un ai yw’r parti’n bwriadu bod yn bresennol yn y gwrandawiad ai peidio,

                         (ii)    a yw’r parti’n dymuno cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheol 45 ac os felly, enw’r cynrychiolydd,

                       (iii)    a yw’r parti’n bwriadu galw tystion ac os felly, enwau’r tystion arfaethedig, ac a oes arbenigwr yn eu plith,

                        (iv)    a oes ar y parti, neu dyst, angen cymorth oherwydd nam cyfathrebu, ac os felly, manylion y math o gymorth cyfathrebu sy’n ofynnol, a

                          (v)    a oes gan y parti, neu dyst sy’n bwriadu cael ei alw, unrhyw anableddau a allai olygu y byddai’n ofynnol gwneud addasiadau rhesymol ac, os felly, manylion y math o addasiadau sy’n ofynnol,

(b)     rhoi gwybod i bob parti bod rhaid, os digwydd i ateb i unrhyw un o’r ymholiadau o dan is-baragraff (a) newid ar ôl i barti ymateb i’r ymholiadau hynny, i’r parti dan sylw roi gwybod ar unwaith i Ysgrifennydd y Tribiwnlys mewn ysgrifen.

Methiant i ymateb i ymholiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

25.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys orchymyn—

(a)     bod yr hysbysiad cais yn cael ei ddileu ar y sail bod methiant y ceisydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reol 24, yn rhagfarnu, neu’n oedi, gwrandawiad teg o’r cais,

(b)     na chaiff y Comisiynydd gymryd unrhyw gam pellach mewn perthynas â’r cais, na bod yn bresennol yn y gwrandawiad, na chael cynrychiolaeth yno, ar y sail bod methiant y Comisiynydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reol 24, yn rhagfarnu neu’n oedi gwrandawiad teg o’r cais.

(2) Cyn y gall orchymyn gael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i’r parti y mae’r Tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud.

(3) At ddibenion y rheol hon—

(a)     rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)     bydd sylwadau wedi eu gwneud—

                           (i)    yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant yn cael eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a

                         (ii)    yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(4) Os bydd hysbysiad cais yn cael ei ddileu o dan baragraff (1)(a), tybir bod y cais wedi ei derfynu.

RHAN E

PWERAU RHEOLI’R TRIBIWNLYS

Cyfarwyddiadau

26.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys, ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, roi pa bynnag gyfarwyddiadau i barti ar unrhyw fater sy’n codi mewn perthynas â’r cais ac sy’n cael eu hystyried yn briodol gan y Tribiwnlys, gan gynnwys y math o gyfarwyddiadau sy’n cael eu darparu amdanynt yn rheolau 30, 31 a 32, i alluogi’r Tribiwnlys i benderfynu’r cais yn unol â’r amcan pennaf.

(2) Rhaid i gais gan barti am gyfarwyddiadau, oni iddo gael ei wneud yn y gwrandawiad ar sylwedd y cais, gael ei wneud yn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys.

(3) Rhaid i barti sy’n cyflwyno cais am gyfarwyddiadau i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, oni fydd y cais yn cael ei gyflwyno ynghyd â chydsyniad ysgrifenedig y parti arall, gyflwyno copi o’r cais i’r parti arall.

(4) Os bydd y parti arall yn gwrthwynebu’r cyfarwyddiadau sy’n cael eu ceisio, rhaid i’r Tribiwnlys ystyried y gwrthwynebiad, ac os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod angen hynny ar gyfer penderfynu’r cais, rhaid rhoi cyfle i’r partïon wneud sylwadau.

(5) Os na fydd, ym marn y Tribiwnlys, amser rhesymol cyn gwrandawiad y mae hysbysiad ohono wedi cael ei roi o dan reol 36(1), i gydymffurfio â chyfarwyddyd y mae parti wedi gwneud cais amdano, caiff y Tribiwnlys—

(a)     os yw o’r farn y gallai cydymffurfio â’r cyfarwyddyd gynorthwyo’r Tribiwnlys i benderfynu’r materion, ohirio’r gwrandawiad cyn ei gychwyn o dan reol 43, neu

(b)     gwrthod y cais.

(6) Rhaid i gyfarwyddyd sy’n gorfodi parti i gymryd unrhyw gam ymarferol—

(a)     gynnwys datganiad o’r canlyniadau posibl i’r cais, fel sy’n cael ei ddarparu gan reol 33, pe bai parti’n methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd o fewn yr amser sy’n cael ei ganiatáu gan y Tribiwnlys,

(b)     oni fydd y person y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi cael cyfle i wrthwynebu’r cyfarwyddyd, neu wedi cydsynio iddo mewn ysgrifen, cynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y person hwnnw wneud cais i’r Tribiwnlys o dan reol 27 am amrywio’r cyfarwyddyd neu ei osod o’r neilltu.

(7) Pan fo’n ymddangos i’r Tribiwnlys fod mater yn codi mewn perthynas â chais y mae’n rhaid ei benderfynu cyn y gwrandawiad ar sylwedd y cais, ac nad yw’n bosibl ei benderfynu’n briodol drwy roi cyfarwyddiadau heb wrandawiad, caiff y Tribiwnlys wysio’r partïon i ymddangos gerbron y Tribiwnlys at y diben hwnnw, a chaiff roi unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol mewn perthynas â’u hymddangosiad.

Amrywio cyfarwyddiadau neu eu gosod o’r neilltu

27.(1)(1) Pan na chafodd parti y mae cyfarwyddyd yn cael ei gyfeirio ato gyfle i wrthwynebu rhoi’r cyfarwyddyd hwnnw, ac nad oedd wedi cydsynio iddo mewn ysgrifen, caiff y parti hwnnw wneud cais i’r Tribiwnlys, ar unrhyw adeg, drwy hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, am i’r cyfarwyddyd gael ei amrywio neu ei osod o’r neilltu.

(2) Rhaid i’r Tribiwnlys beidio ag amrywio’r cyfarwyddyd na’i osod o’r neilltu heb yn gyntaf hysbysu’r partïon ac ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud ganddynt.

Pŵer i ddileu’r cais

28.(1)(1) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam mewn perthynas â chais, ar gais y Comisiynydd neu os bydd y Tribiwnlys wedi cyfarwyddo felly, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd sy’n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu’r cyfan neu ran o’r cais, ar un o’r seiliau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (2) neu oherwydd methiant ar ran y ceisydd i symud ymlaen gyda’r achos.

(2) Y seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) yw bod y cais—

(a)     wedi ei wneud rywfodd ac eithrio’n unol â’r Rheolau hyn,

(b)     heb fod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw bellach o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys,

(c)     heb ddatgelu seiliau rhesymol,

(d)     yn wacsaw neu’n flinderus; neu,

(e)     yn camddefnyddio, fel arall, proses y Tribiwnlys.

(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd y ceisydd i wneud sylwadau.

(4) At ddibenion y rheol hon—

(a)     rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r ceisydd y caiff y ceisydd, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)     bydd sylwadau wedi eu gwneud—

                           (i)    yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant wedi eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a

                         (ii)    yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(5) Caiff y Tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y ceisydd, orchymyn dileu’r cyfan neu ran o’r cais, ar un o’r seiliau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (2) neu oherwydd methiant ar ran y ceisydd i symud ymlaen gyda’r achos.

(6) Ceir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd y ceisydd yn gofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar.

(7) Os bydd sylwadau llafar yn cael eu gwneud yn unol â pharagraff (6), caiff y Tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau’r gwrandawiad sy’n ymwneud â sylwedd y cais.

(8) Os bydd y cyfan o’r cais yn cael ei ddileu o dan baragraff (5), tybir bod y cais wedi ei derfynu.

Gorchymyn i ddiwygio datganiad achos

29.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys, os yw’n ystyried bod hynny’n briodol, yn ystod unrhyw gam mewn perthynas â’r cais, orchymyn diwygio datganiad achos parti ar y sail nad yw, fel mae’n sefyll, yn datgelu seiliau rhesymol dros wneud y cais neu oherwydd ei fod yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.

(2) Cyn y gall orchymyn gael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i’r parti y mae’r Tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud.

(3) At ddibenion y rheol hon—

(a)     rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)     bydd sylwadau wedi eu gwneud—

                           (i)    yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant wedi cael eu gwneud o fewn y cyfnod sydd wedi cael ei bennu felly, a

                         (ii)    yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod sydd wedi cael ei bennu felly.

Tystiolaeth a chyflwyniadau

30.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ar—

(a)     y materion y mae’n ofynnol cael tystiolaeth neu gyflwyniadau yn eu cylch,

(b)     natur y dystiolaeth neu’r cyflwyniadau sy’n ofynnol,

(c)     unrhyw gyfyngiadau ar dystiolaeth neu gyflwyniadau sy’n gyson â’r amcan pennaf,

(d)     pa un a fydd y partïon yn cael caniatâd i ddarparu tystiolaeth arbenigol ai peidio, neu a yw’n ofynnol iddynt wneud hynny, ac os felly, a oes raid i’r partïon ar y cyd benodi un arbenigwr i ddarparu tystiolaeth o’r fath,

(e)     y modd y gall unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau gael eu darparu, a chaiff hynny gynnwys cyfarwyddyd iddynt gael eu rhoi—

                           (i)    ar lafar mewn gwrandawiad, neu

                         (ii)    fel cyflwyniadau ysgrifenedig neu ddatganiad tyst ysgrifenedig, a

(f)      yr amser erbyn pryd y bydd rhaid darparu unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau.

(2) Caiff y Tribiwnlys ystyried bod methiant person, sy’n barti yn y cais, i gydymffurfio â gofyniad sy’n cael ei wneud o dan baragraff (1), yn absenoldeb unrhyw reswm da dros fethiant o’r fath, yn fethiant i gydweithredu â’r Tribiwnlys.

(3) Caiff y Tribiwnlys—

(a)     yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)(iii), dderbyn unrhyw dystiolaeth berthnasol, pa un a fyddai’r dystiolaeth honno’n dderbyniadwy ai peidio mewn treial sifil yng Nghymru neu Loegr,

(b)     allgáu tystiolaeth a fyddai, fel arall, yn dderbyniadwy—

                           (i)    os na chafodd y dystiolaeth ei darparu o fewn yr amser a ganiateid gan gyfarwyddyd,

                         (ii)    os darparwyd y dystiolaeth, rywfodd arall, mewn modd nad oedd yn cydymffurfio â chyfarwyddyd, neu

                       (iii)    os byddai’n annheg, rywfodd arall, pe derbynnid y dystiolaeth.

Manylion a datganiadau atodol

31. Caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti yn darparu, naill ai yn natganiad achos y parti hwnnw neu ynghyd â’r datganiad achos, pa bynnag fanylion neu ddatganiadau atodol y mae gofyn rhesymol amdanynt ar gyfer penderfynu’r cais.

Datgelu dogfennau a deunydd arall

32.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys—

(a)     cyfarwyddo parti i gyflwyno i’r Tribiwnlys erbyn dyddiad penodedig unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall y mae gofyn amdani neu amdano gan y Tribiwnlys, ac sydd o fewn gallu’r parti hwnnw i’w chyflwyno neu gyflwyno,

(b)     rhoi cyfarwyddyd ar—

                           (i)    unrhyw fater y mae’n ofynnol datgelu tystiolaeth yn ei gylch,

                         (ii)    natur a maint y datgeliad,

                       (iii)    y modd y mae’r ddogfen neu dystiolaeth arall i’w darparu i’r Tribiwnlys, a

                        (iv)    allgáu unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall sy’n amherthnasol, yn ddiangen neu a gafaelwyd yn amhriodol.

(2) Caiff y Tribiwnlys osod amod ar gyflenwi copi o unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall sy’n cael eu cyflenwi wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n cael ei roi o dan baragraff (1), bod rhaid i’r parti sy’n ei dderbyn defnyddio’r copi at ddibenion y cais yn unig.

(3) Caiff y Tribiwnlys, cyn cyflenwi copi, ofyn am ymgymeriad ysgrifenedig y bydd y person sy’n rhoi’r ymrwymiad yn ufuddhau i’r amod sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (2).

(4) Caiff y Tribiwnlys ganiatáu i barti’r un fath o orchymyn ar gyfer datgelu neu archwilio dogfennau (gan gynnwys cymryd copïau) ac y gellid ei ganiatáu o dan Reolau’r Weithdrefn Sifil 1998([4]).

(5) Rhaid i orchymyn o dan baragraff (4) gynnwys rhybudd y bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol, o dan adran 126 o’r Mesur, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau

33.(1)(1) Os na fydd parti wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan y Rheolau hyn o fewn yr amser sy’n cael ei bennu yn y cyfarwyddyd, caiff y Tribiwnlys—

(a)     os y ceisydd yw’r parti diffygiol, wrthod y cais heb wrandawiad,

(b)     os y Comisiynydd yw’r parti diffygiol, benderfynu’r cais heb wrandawiad,

(c)     cynnal gwrandawiad—

                           (i)    heb hysbysu’r parti diffygiol, lle na fydd y parti diffygiol yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli, neu

                         (ii)    pan fo’r partïon wedi eu hysbysu o’r gwrandawiad yn unol â rheol 36(1), gan roi cyfarwyddyd nad oes hawl gan y parti diffygiol, nac unrhyw berson y bwriedir iddo gynrychioli’r parti hwnnw neu roi tystiolaeth ar ei ran, i gael ei glywed yn y gwrandawiad.

(2) Yn y rheol hon ystyr “y parti diffygiol” (“the party in default”) yw’r parti a fethodd â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

Ceisiadau sydd, at ei gilydd, yn codi’r un cwestiwn

34.(1)(1) Os oes mwy nag un cais yn galw am benderfyniad sydd, at ei gilydd, ar yr un cwestiwn, caiff y Tribiwnlys—

(a)     orchymyn bod y ceisiadau hynny i’w clywed ar y cyd, neu

(b)     dewis un neu ragor o’r ceisiadau hynny i fod yn gais arweiniol neu geisiadau arweiniol, gan atal y ceisiadau eraill nes y bydd y cais hwnnw, neu’r ceisiadau hynny, wedi’u penderfynu.

(2) Caiff y Tribiwnlys wneud gorchymyn sy’n amrywio neu’n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraff (1).

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y Tribiwnlys ddyroddi gorchymyn o dan y rheol hon ar gais ysgrifenedig gan y naill barti neu’r llall neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan.

(4) Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan y rheol hon onid yw’n ymddangos, ym marn y Tribiwnlys, yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o’r apeliadau yr effeithir arnynt, gael ei glywed.

Ychwanegu ac amnewid partïon

35.(1)(1) Caiff person wneud cais am gael ei gysylltu fel parti i gais.

(2) Caiff y Tribiwnlys wneud gorchymyn i gysylltu person fel parti i gais—

(a)     os bydd cais ysgrifenedig o dan baragraff (1) yn cael ei wneud, neu

(b)     ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, pan nad oes cais ysgrifenedig wedi ei wneud, ond mae’r person yn cydsynio i gael ei gysylltu fel parti i’r cais.

(3) Caiff y Tribiwnlys wneud gorchymyn i amnewid parti—

(a)     os yw person anghywir wedi ei enwi’n barti, neu

(b)     os oes angen yr amnewid oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers pan gychwynnwyd y cais.

(4) Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (2) neu (3) caiff y Tribiwnlys wneud pa bynnag gyfarwyddiadau canlyniadol, neu ymholiadau o dan reol 24, sy’n cael eu hystyried yn briodol gan y Tribiwnlys.

(5) Oni fydd y Tribiwnlys yn cyfarwyddo’n wahanol, rhaid trin person sy’n cael ei gysylltu neu’n cael ei amnewid o dan y rheol hon fel parti at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Rheolau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfen i barti yn y cais.

RHAN F

GWRANDAWIADAU A PHENDERFYNIADAU

Hysbysu dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiadau

36.(1)(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) a rheol 37, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori â’r partïon, bennu dyddiad, lleoliad ac amser unrhyw wrandawiad ac anfon hysbysiad sy’n nodi dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad at bob parti.

(2) Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi gofyn i barti ddarparu manylion o’r adegau y byddai ar gael i fod yn bresennol mewn gwrandawiad, a’r parti hwnnw heb gydymffurfio â’r cais, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys fynd ymlaen i drefnu’r gwrandawiad heb ymgynghori ymhellach gyda’r parti hwnnw.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r hysbysiad o wrandawiad sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (1) gael ei anfon—

(a)     ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer gwrandawiad, neu

(b)     o fewn unrhyw gyfnod o amser byrrach cyn y dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer y gwrandawiad yn is-baragraff (a) fel sydd wedi cael ei gytuno gan y partïon.

(4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gynnwys yn yr hysbysiad o wrandawiad, neu gyda’r hysbysiad o wrandawiad—

(a)     gwybodaeth a chanllawiau, mewn ffurf sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Llywydd, ynglŷn â phresenoldeb y partïon a’r tystion yn y gwrandawiad, dod â dogfennau, a’r hawl i gynrychiolaeth neu gymorth fel sy’n cael ei ddarparu gan reol 45, a

(b)     datganiad sy’n esbonio’r canlyniadau posibl os bydd parti yn methu â bod yn bresennol, a’r hawl sydd gan y canlynol i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig—

                           (i)    y ceisydd, os na fydd y ceisydd yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli,

                         (ii)    y Comisiynydd, os na fydd y Comisiynydd yn bresennol ac os nad oes gan y Comisiynydd gynrychiolydd, os cafodd datganiad achos ei gyflwyno gan y Comisiynydd, oni fydd y Comisiynydd wedi datgan mewn ysgrifen nad yw’n gwrthwynebu’r cais, neu wedi tynnu gwrthwynebiad i’r cais yn ôl.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Tribiwnlys newid lleoliad ac amser unrhyw wrandawiad, ond rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i’r partïon ddim llai na 5 niwrnod gwaith (neu unrhyw gyfnod llai os cytunwyd arno gan y partïon) o rybudd ynghylch lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad.

(6) Os yw’r partïon yn bresennol pan fydd y Tribiwnlys yn cyhoeddi lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad, ni fydd yn ofynnol rhoi hysbysiad pellach.

(7) Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (5) sy’n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawl ganddo i fod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, nac anfon hysbysiad at unrhyw berson o’r fath.

Pŵer i benderfynu cais heb wrandawiad

37.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys benderfynu’r cais, neu unrhyw fater penodol, heb wrandawiad—

(a)     os yw’r partïon yn cytuno felly mewn ysgrifen, neu

(b)     o dan yr amgylchiadau sy’n cael eu disgrifio yn rheol 23 (methiant ar ran y Comisiynydd i gyflwyno datganiad achos ac absenoldeb gwrthwynebiad) neu 33 (methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau).

(2) Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno gan y partïon; at ddibenion y rheol hon, rhaid trin yr hysbysiad cais a datganiadau achos y partïon fel pe baent yn sylwadau ysgrifenedig.

Gwrandawiadau cyhoeddus

38.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid cynnal pob un o wrandawiadau’r Tribiwnlys yn gyhoeddus.

(2) Heb ragfarnu unrhyw bwerau eraill a allai fod ganddo, caiff y Tribiwnlys allgáu o wrandawiad, neu o ran ohono, berson y mae ei ymddygiad, ym marn y Tribiwnlys, wedi amharu, neu’n debygol o amharu ar y gwrandawiad.

(3) Os yw’n ymddangos i’r Tribiwnlys y bydd parti neu dyst, yn ystod gwrandawiad, yn dymuno cyfeirio at faterion sy’n ymwneud ag unrhyw wybodaeth bersonol gyfrinachol neu sy’n ymwneud â phlentyn unigol neu â pherson arall sy’n agored i niwed, caiff y Tribiwnlys, i’r graddau bod hynny’n ofynnol er mwyn amddiffyn preifatrwydd y person o dan sylw, a sicrhau tegwch a chyfiawnder, allgáu o’r rhan berthnasol (neu’r rhannau perthnasol) o’r gwrandawiad unrhyw un sydd heb fod yn barti i’r achos.

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

39.(1)(1) Ar ddechrau’r gwrandawiad rhaid i’r Cadeirydd esbonio’r drefn y mae’r panel tribiwnlys yn bwriadu ei mabwysiadu ar gyfer yr achos.

(2) Rhaid i’r panel tribiwnlys gynnal y gwrandawiad mewn modd sydd, ym marn y panel, yn briodol, er mwyn sicrhau eglurdeb materion a thrin y trafodion yn deg a chyfiawn, gan osgoi ffurfioldeb diangen yn y trafodion, i’r graddau y mae’n ystyried yn briodol.

(3) Rhaid i’r panel tribiwnlys benderfynu ym mha drefn y bydd y partïon yn cael eu clywed a pha faterion sydd i’w penderfynu.

(4) Caiff y panel tribiwnlys, os bydd y panel yn fodlon fod gwneud hynny’n deg a chyfiawn, ganiatáu—

(a)     i’r ceisydd ddibynnu ar seiliau na chafodd eu datgan yn yr hysbysiad cais nac yn y datganiad achos, a dibynnu ar dystiolaeth na chafodd ei chyflwyno i’r Comisiynydd, cyn nac ar y pryd y gwnaed y penderfyniad sy’n cael ei herio,

(b)     i’r Comisiynydd ddibynnu ar seiliau na chafodd eu pennu yn natganiad achos y Comisiynydd.

(5) Os yw aelod o’r panel tribiwnlys, ac eithrio’r Cadeirydd, yn absennol, ar ddechrau’r gwrandawiad neu ar ôl hynny—

(a)     caiff y ddau aelod arall, gyda chydsyniad y partïon, gynnal y gwrandawiad, ac os digwydd hynny mae’r panel tribiwnlys i’w ystyried wedi ei gyfansoddi’n briodol, a chaiff y ddau aelod hynny wneud penderfyniad y panel tribiwnlys,

(b)     rhaid i’r aelod sy’n absennol beidio ag ailymuno â’r gwrandawiad.

Tystiolaeth mewn gwrandawiad

40.(1)(1) Yn ddarostyngedig i reol 30(1)(d), mae hawl gan y partïon yng nghwrs y gwrandawiad i roi tystiolaeth, i alw tystion, i holi unrhyw dyst ac i annerch y panel tribiwnlys ar y dystiolaeth, gan gynnwys y dystiolaeth ysgrifenedig a gafodd ei chyflwyno cyn y gwrandawiad, yn ogystal ag yn gyffredinol ar destun y cais.

(2) Ceir rhoi tystiolaeth gerbron y panel tribiwnlys naill ai—

(a)     ar lafar, neu

(b)     drwy ddatganiad ysgrifenedig os cafodd y dystiolaeth honno ei chyflwyno ynghyd â’r hysbysiad cais neu’r datganiad achos, neu’n unol â chyfarwyddyd gan y Tribiwnlys.

(3) Caiff y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o’r cais, bennu bod presenoldeb personol y sawl a wnaeth unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn ofynnol.

(4) Caiff y Tribiwnlys dderbyn tystiolaeth ynghylch unrhyw ffaith sy’n ymddangos i’r Tribiwnlys ei fod yn berthnasol.

(5) Caiff y Tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti neu dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhad, ac at y diben hwnnw ceir gweinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf gywir, neu ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw dystiolaeth a roddir drwy ddatganiad ysgrifenedig yn cael ei rhoi o dan ddatganiad o wirionedd.

Gwysio tyst

41.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), caiff y Tribiwnlys ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, ei gwneud yn ofynnol, drwy wŷs fod unrhyw berson yn bresennol fel tyst mewn gwrandawiad, ar yr adeg ac yn y lle sy’n cael eu pennu yn y wŷs, ac mewn unrhyw ohiriad o’r gwrandawiad hwnnw neu o weddill y gwrandawiad hwnnw, ac yn y gwrandawiad, ei fod yn ateb unrhyw gwestiynau neu’n dangos unrhyw ddogfennau neu ddeunydd arall sy’n cael ei gadw ganddo, neu sydd o dan ei reolaeth, ac sy’n ymwneud ag unrhyw fater dan sylw yn y cais.

(2) Rhaid peidio â gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall, na ellid gorfodi’r person i’w rhoi neu i’w dangos mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru neu Loegr.

(3) Wrth arfer y pŵer sy’n cael ei roi gan y rheol hon, rhaid i’r Tribiwnlys gymryd i ystyriaeth yr angen i ddiogelu unrhyw fater sy’n ymwneud ag amgylchiadau personol agos neu amgylchiadau ariannol, neu sy’n cynnwys gwybodaeth a fynegwyd neu a ddaeth i law yn gyfrinachol.

(4) Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol oni roddwyd o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd o’r gwrandawiad i’r person hwnnw, neu, os rhoddwyd llai na 5 niwrnod gwaith, oni fydd y person wedi rhoi gwybod i’r Tribiwnlys ei fod yn derbyn y rhybudd a roddwyd.

(5) Ni cheir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs bod person yn bresennol ac yn rhoi tystiolaeth neu’n dangos unrhyw ddogfen, oni fydd swm o arian wedi ei dalu neu ei gynnig iddo, sy’n rhesymol ddigonol i dalu treuliau angenrheidiol ei bresenoldeb.

(6) Rhaid i barti sydd am gael gwŷs tyst wneud cais ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, o leiaf 8 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, neu’n ddiweddarach os yw’r person y mae’r wŷs yn cael ei chyfeirio ato yn cydsynio mewn ysgrifen.

(7) Rhaid i wŷs tyst gynnwys—

(a)     datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os gofynnir am hynny yn y wŷs, i ddangos dogfennau, yn atebol o dan adran 126 o’r Mesur, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, a

(b)     datganiad o effaith paragraff (8).

(8) Caiff person y mae gwŷs tyst yn cael ei chyfeirio ato wneud cais i’r Tribiwnlys, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, i amrywio’r wŷs neu ei osod o’r neilltu.

(9) Rhaid i’r Tribiwnlys beidio ag amrywio na gosod o’r neilltu wŷs tyst heb yn gyntaf hysbysu’r parti a wnaeth gais am ddyroddi’r wŷs tyst ac ystyried unrhyw sylwadau a gafodd eu gwneud gan y parti hwnnw.

Tystiolaeth dros y teleffon, cyswllt fideo neu ddulliau eraill

42. Caiff y Tribiwnlys, naill ai ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, ganiatáu i barti neu i dyst roi tystiolaeth dros y teleffon, drwy gyswllt fideo neu drwy unrhyw ddull arall o gyfathrebu, os bydd y Tribiwnlys yn fodlon na fyddai hynny’n rhagfarnu ar gyrraedd yr amcan pennaf.

Gohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn

43.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys, mewn amgylchiadau eithriadol, naill ai ar gymhelliad ei hunan neu ar gais parti, wneud gorchymyn i ohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn.

(2) Rhaid i gais gan barti o dan baragraff (1)—

(a)     cael ei wneud mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau yn llawn,

(b)     dod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a chael ei gyflwyno gan y ceisydd i’r parti arall, o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.

(3) Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i’r partïon ddim llai na 5 niwrnod gwaith (neu ba bynnag gyfnod byrrach y mae’r partïon yn cytuno arno) o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad newydd.

(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy’n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawl ganddo i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, nac anfon hysbysiad at unrhyw berson o’r fath.

Gohiriadau a chyfarwyddiadau canlyniadol

44.(1)(1) Caiff y Tribiwnlys ohirio gwrandawiad ar ôl ei gychwyn.

(2) Pan fydd gwrandawiad yn cael ei ohirio ar ôl ei gychwyn caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy cyn ailgychwyn y gwrandawiad neu yn y gwrandawiad ar ôl ailgychwyn.

(3) Caiff cyfarwyddyd o dan baragraff (2) ei gwneud yn ofynnol bod parti’n darparu pa bynnag fanylion, dystiolaeth neu ddatganiadau y mae gofyn rhesymol amdanynt ar gyfer penderfynu’r cais.

(4) Os yw parti’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n cael ei wneud o dan baragraff (2), caiff y panel tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu’r cais neu wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ar gyfer costau.

(5) Os bydd lleoliad ac amser gwrandawiad a ohiriwyd ar ôl ei gychwyn, yn cael eu cyhoeddi y gwrandawid cyn ei ohirio, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.

Cynrychioli mewn gwrandawiad

45.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn unrhyw wrandawiad neu ran o wrandawiad caiff y ceisydd, y Comisiynydd neu unrhyw barti arall gynnal y cais yn bersonol, neu trwy gynrychiolydd, pa un a oes cymwysterau cyfreithiol gan y cynrychiolydd hwnnw ai peidio.

(2) Os nad yw parti’n bwriadu bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, caiff y parti hwnnw, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, anfon at Ysgrifennydd y Tribiwnlys sylwadau ysgrifenedig ychwanegol i gefnogi achos y parti hwnnw.

Methiant i fod yn bresennol mewn gwrandawiad

46.(1)(1) Os yw parti’n methu â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad y mae’r parti hwnnw wedi cael hysbysiad ohono, caiff y panel tribiwnlys—

(a)     os na fydd y panel tribiwnlys wedi ei fodloni fod rheswm digonol dros yr absenoldeb, glywed a phenderfynu’r cais yn absenoldeb y parti hwnnw, neu

(b)     gohirio’r gwrandawiad cyn ei gychwyn neu ei ohirio ar ôl ei gychwyn fel sy’n briodol.

(2) Cyn penderfynu cais yn absenoldeb parti, rhaid i’r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd wedi cael eu cyflwyno gan y parti hwnnw wrth ymateb i’r hysbysiad o wrandawiad, ac at ddibenion y rheol hon mae’r hysbysiad cais a datganiadau achos y partïon i’w trin fel sylwadau ysgrifenedig.

Penderfyniad y panel tribiwnlys

47.(1)(1) Caiff y panel tribiwnlys ystyried unrhyw benderfyniad yn breifat.

(2) Caiff y panel tribiwnlys wneud penderfyniad drwy fwyafrif, a phan fo’r panel tribiwnlys yn cynnwys dau aelod yn unig o dan reol 39(5) bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(3) Ceir naill ai roi penderfyniad y panel tribiwnlys ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ohirio’r penderfyniad, ac ym mhob achos rhaid cofnodi’r penderfyniad mewn dogfen; ac eithrio mewn achos a benderfynir drwy gydsyniad, rhaid hefyd cynnwys yn y ddogfen honno (neu mewn atodiad iddi) ddatganiad o’r rhesymau (mewn ffurf gryno) dros benderfyniad y panel tribiwnlys; rhaid i ddogfen o’r fath gael ei llofnodi a’i dyddio gan y Cadeirydd.

(4) Ni chaiff penderfyniad sy’n cael ei roi ar lafar na’r ddogfen sy’n cael ei chyfeirio ati ym mharagraff (3) gynnwys unrhyw gyfeiriad at wneud y penderfyniad drwy fwyafrif (os dyna a ddigwyddodd) nac at unrhyw farn lleiafrif.

(5) Rhaid cofnodi pob penderfyniad panel tribiwnlys yn y Gofrestr.

(6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r ddogfen sy’n cael ei chyfeirio ati ym mharagraff (3), cyn gynted ag sy’n ymarferol, at bob parti, ynghyd â chanllawiau, mewn ffurf sydd wedi ei gymeradwyo gan y Llywydd, ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad y panel tribiwnlys neu i apelio yn ei erbyn ac am y weithdrefn i’w dilyn.

(7) Pan fo rheol 13(10) yn gymwys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r dogfennau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (6) at y ceisydd yn ogystal ag at y cynrychiolydd.

(8) Mae pob penderfyniad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad y mae copi o’r ddogfen sy’n ei gofnodi’n cael ei anfon at y ceisydd (pa un a chafodd y penderfyniad ei gyhoeddi’n gynharach ar ddiwedd y gwrandawiad ai peidio).

RHAN G

AR ÔL Y GWRANDAWIAD

Cais neu gynnig am adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys

48.(1)(1) Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys i benderfyniad gan y Tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—

(a)     bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir oherwydd gwall pwysig ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys,

(b)     bod gan barti a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos, neu

(c)     bod gwall amlwg a phwysig yn y penderfyniad.

(2) Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Tribiwnlys gael ei wneud—

(a)     mewn ysgrifen gan ddatgan y seiliau,

(b)     ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.

(3) Caiff y Llywydd—

(a)     ar gais parti o dan baragraff (1), neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Tribiwnlys, ar un o’r seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1),

(b)     gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys yn unol â pharagraff (5).

(4) Rhaid i’r Llywydd, os yw’n gosod penderfyniad panel tribiwnlys o’r neilltu o dan baragraff (3), orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron panel tribiwnlys sydd wedi ei gyfansoddi’n wahanol.

(5) Hyd yn oed os yw’r Llywydd wedi ei argyhoeddi fod un neu fwy o’r seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) wedi eu dangos, caiff wrthod y cais am adolygiad neu ran ohono, os, ym marn y Llywydd, bydd buddiannau cyfiawnder yn cyfiawnhau hynny.

(6) Rhaid i’r Llywydd, cyn caniatáu cais am adolygiad roi cyfle i’r partïon gael eu clywed ganddo.

(7) Os bydd penderfyniad yn cael ei osod o’r neilltu neu os bydd penderfyniad yn cael ei amrywio yn dilyn adolygiad o dan y rheol hon, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a hysbysu’r partïon o hynny.

Adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys i beidio ag estyn y cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer cychwyn achos

49.(1)(1) Gall penderfyniad gan y Tribiwnlys i beidio ag estyn yr amser sy’n cael ei ganiatáu o dan reol 11 ar gyfer cyflwyno hysbysiad cais, gael ei adolygu o dan reol 48, ar gais person, fel pe bai’r person hwnnw’n barti i’r cais.

(2) Os bydd cais am adolygiad o dan baragraff (1) yn cael ei wneud, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o’r cais i’r Comisiynydd a rhoi i’r Comisiynydd hysbysiad yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig.

Ystyried cais am ganiatâd i apelio i’r Uchel Lys

50.(1)(1) Pan ddaw i law cais o dan adrannau 59, 97, 101 neu 105 o’r Mesur am ganiatâd i apelio i’r Uchel Lys, rhaid i’r Llywydd ystyried, yn gyntaf, gan gymryd i ystyriaeth yr amcan pennaf, pa un ai dylid adolygu penderfyniad y Tribiwnlys yn unol â rheol 48 ai peidio, oni fydd y Llywydd eisoes wedi adolygu’r penderfyniad, neu wedi gwrthod cais am ei adolygu.

(2) Os bydd y Llywydd yn penderfynu peidio ag adolygu’r penderfyniad, neu’n adolygu’r penderfyniad ac yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r penderfyniad, neu’r rhan ohono y mae’r apêl arfaethedig yn ymwneud â hi, rhaid i’r Llywydd ystyried wedyn a ddylid rhoi caniatâd i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad, neu’r rhan honno ohono.

Pŵer i atal dros dro benderfyniad y Tribiwnlys

51. Caiff y Tribiwnlys, ar gais parti, neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, wneud gorchymyn i atal dros dro effaith penderfyniad y panel tribiwnlys wrth ddisgwyl am benderfyniad gan y Tribiwnlys neu’r Uchel Lys ar gais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac ar unrhyw apêl neu adolygiad ohono.

Gorchmynion yr Uchel Lys

52.(1)(1) Os caiff unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys ei osod o’r neilltu, ei amrywio neu ei newid mewn unrhyw ffordd gan orchymyn yr Uchel Lys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr i gyfateb i’r gorchymyn hwnnw, a rhaid iddo hysbysu’r partïon yn unol â hynny.

(2) Os bydd y cais yn cael ei ddychwelyd, drwy orchymyn yr Uchel Lys, i’w ail-glywed gan y Tribiwnlys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon y caiff pob parti, yn ystod cyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach sydd wedi ei gytuno rhwng y partïon) gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(3) Os caiff gorchymyn i ddileu hysbysiad cais ei ddiddymu neu ei osod o’r neilltu gan yr Uchel Lys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon—

(a)     os nad oedd y cyfnod datganiad achos wedi dod i ben cyn i’r gorchymyn i ddileu cael effaith—

                           (i)    y bydd cyfnod datganiad achos newydd yn dechrau, a

                         (ii)    y caiff y partïon, o fewn y cyfnod datganiad achos newydd, gyflwyno’r dogfennau sy’n cael eu cyfeirio atynt yn is-baragraff (b) mewn perthynas â datganiad achos neu dystiolaeth a gafodd eu cyflwyno cyn i’r dileu cael effaith, neu

(b)     pan nad yw is-baragraff (a) yn gymwys, bod gan bob parti gyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach sydd wedi ei gytuno rhwng y partïon) i gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r holl ddatganiadau achos a thystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi’u cael gan barti yn ystod y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3)(b) at y parti arall.

RHAN H

AMRYWIOL

Estyn yr amser

53.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Tribiwnlys, ar gais parti, neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, gyfarwyddo bod cyfnod o amser sy’n cael ei bennu gan y Rheolau hyn (ac eithrio’r cyfnod sy’n cael ei bennu gan reol 11(1)) neu a gafodd ei bennu mewn cyfarwyddyd sydd wedi ei wneud o danynt, i gael ei estyn.

(2) Dim ond os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod hynny’n deg ac yn gyfiawn y caiff y Tribiwnlys estyn cyfnod o amser yn unol â pharagraff (1).

(3) Caiff y Tribiwnlys estyn cyfnod o amser o ba bynnag gyfnod y bydd y Tribiwnlys yn ei ystyried yn briodol.

(4) Pan fo’r Tribiwnlys wedi estyn cyfnod o amser, rhaid dehongli cyfeiriad at y cyfnod hwnnw o amser yn y Rheolau hyn, neu mewn cyfarwyddyd sydd wedi cael ei wneud o danynt, fel pe bai’n gyfeiriad at y cyfnod o amser a estynnwyd felly.

Tynnu yn ôl

54. Caiff person dynnu cais yn ôl—

(a)     drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg cyn gwrandawiad, neu

(b)     ar lafar mewn gwrandawiad.

Gorchmynion ar gyfer costau a threuliau

55.(1)(1) Fel rheol, rhaid i’r Tribiwnlys beidio â gwneud gorchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o’r fath—

(a)     yn erbyn parti os bydd y Tribiwnlys o’r farn bod y parti wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi, neu, fod ymddygiad y parti, wrth wneud neu wrthwynebu’r cais, wedi bod yn afresymol,

(b)     yn erbyn cynrychiolydd os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod y cynrychiolydd wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi,

(c)     yn erbyn parti a fethodd â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw ohono yn briodol,

(d)     yn erbyn y Comisiynydd os methodd y Comisiynydd â chyflwyno datganiad achos o dan reol 20,

(e)     yn erbyn y Comisiynydd os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod y penderfyniad sy’n cael ei herio’n afresymol.

(2) Ceir gwneud unrhyw orchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau—

(a)     mewn perthynas â’r cyfan, neu unrhyw ran o unrhyw gostau a threuliau a achoswyd, neu unrhyw lwfansau a dalwyd, neu

(b)     mewn perthynas â’r cyfan, neu unrhyw ran, o unrhyw lwfans (ac eithrio lwfansau a delir i aelodau o’r Tribiwnlys) sydd i’w dalu i unrhyw berson at ddibenion, neu mewn cysylltiad â phresenoldeb y person hwnnw mewn gwrandawiad Tribiwnlys.

(3) Ceir gwneud gorchymyn ar gyfer costau ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan.

(4) Rhaid i barti sy’n gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)     cyflwyno cais ysgrifenedig a rhestr o’r costau sy’n cael eu hawlio i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a

(b)     cyflwyno copi o’r cais a’r rhestr o gostau i’r person y mae’n fwriad i’r gorchymyn cael ei wneud yn ei erbyn.

(5) Ceir gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3) ar unrhyw adeg yn ystod yr achos ond ni cheir ei wneud yn hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad—

(a)     pan gafodd yr hysbysiad yn cofnodi’r penderfyniad terfynol ar bob mater yn y cais ei ddyroddi,

(b)     ar ôl tynnu’n ôl y cais, pan wnaed gorchymyn yn gwrthod y cais,

(c)     yn dilyn ildiad y Comisiynydd, pan gafodd yr hysbysiad o benderfyniad ei ddyroddi.

(6) Yn achos cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)     rhaid i’r Tribiwnlys ei wrthod os yw’r parti yn gofyn i’r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i’w bwerau,

(b)     caiff y Tribiwnlys ei wrthod yn gyfan gwbl neu’n rhannol os, ym marn y Tribiwnlys, nad oes siawns resymol y gall y cyfan neu’r rhan ohono lwyddo.

(7) Oni fydd cais am orchymyn yn cael ei wrthod o dan baragraff (6), rhaid ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i’r parti a’r person y mae’n fwriad i’r gorchymyn cael ei wneud yn ei erbyn cael eu clywed gan y Tribiwnlys.

(8) Os bydd gorchymyn yn cael ei wneud o dan baragraff (3), caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad costau.

(9) Os digwydd i barti fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddwyd o dan baragraff (8), caiff y Tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu pa un ag i wneud gorchymyn ar gyfer costau ai peidio.

(10) Caiff gorchymyn o dan baragraff (3) ei wneud yn ofynnol bod y parti neu’r cynrychiolydd y mae’r gorchymyn yn cael ei wneud yn ei erbyn yn talu i barti naill ai swm penodedig mewn perthynas â’r costau a’r treuliau a gafodd eu hachosi i’r parti arall hwnnw mewn cysylltiad â’r cais, neu’r cyfan neu ran o’r cyfryw gostau, fel y byddant yn cael eu hasesu, oni fydd cytuno arnynt.

(11) Effaith gorchymyn o dan y rheol hon y dylai costau gael eu hasesu yw mai mater i’r llys sirol bydd gwneud asesiad manwl o’r costau hynny yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Sifil 1998, naill ai ar y sail safonol neu, os pennir hynny yn y gorchymyn, ar sail indemniad.

Pŵer i arfer swyddogaethau

56.(1)(1) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd ymarfer sydd wedi cael ei wneud gan y Llywydd, caiff unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy gan y Tribiwnlys o dan y Rheolau hyn gael ei arfer gan—

(a)     panel tribiwnlys,

(b)     y Llywydd,

(c)     aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith ac a gafodd ei awdurdodi mewn ysgrifen gan y Llywydd i arfer y swyddogaeth honno.

(2) Caiff unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy gan y Llywydd o dan y Rheolau hyn gael ei harfer gan aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ac sydd wedi ei awdurdodi gan y Llywydd i wneud hynny.

(3) Yn ddarostyngedig i reol 60(6), os bydd farw’r Cadeirydd neu os â’n analluog, neu os yw’n peidio â bod yn aelod o’r Tribiwnlys, yn dilyn penderfyniad o’r panel tribiwnlys, caiff y Llywydd neu Gadeirydd arall, sydd wedi ei benodi gan y Llywydd at y pwrpas, arfer swyddogaethau’r Cadeirydd.

Ysgrifennydd y Tribiwnlys

57. Caiff aelod arall o staff y Tribiwnlys, sydd wedi cael ei awdurdodi gan y Llywydd, gyflawni unrhyw swyddogaeth Ysgrifennydd y Tribiwnlys.

Y Gofrestr

58.(1)(1) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadw Cofrestr o’r ceisiau sy’n cael eu gwneud i’r Tribiwnlys.

(2) Rhaid gwneud cofnod yn y Gofrestr o bob cais, ac rhaid i’r cofnod hwnnw gynnwys y manylion canlynol pan fo’n briodol—

(a)     enwau a chyfeiriadau’r partïon,

(b)     manylion cryno o natur y cais,

(c)     dyddiad unrhyw wrandawiad, gan gynnwys unrhyw wrandawiad ar faterion rhagarweiniol neu achlysurol, a phan fo’n briodol, natur y gwrandawiad,

(d)     manylion o unrhyw gyfarwyddiadau neu orchmynion sydd wedi’u ddyroddi, a

(e)     y ddogfen y cafodd penderfyniad y panel tribiwnlys ei gofnodi ynddi o dan reol 47(3).

(3) Ceir cadw’r Gofrestr neu unrhyw ran ohoni mewn ffurf electronig.

Cyhoeddi

59.(1)(1) Rhaid i’r Tribiwnlys gyhoeddi ei benderfyniadau, yn unol â pha bynnag drefniadau sy’n briodol, ym marn y Llywydd.

(2) Ceir cyhoeddi penderfyniadau yn electronig.

(3) Os yw’n angenrheidiol i’r Tribiwnlys, er mwyn rhoi rhesymau llawn am benderfyniad, gyfeirio at faterion sy’n ymwneud ag unrhyw wybodaeth bersonol gyfrinachol neu sy’n ymwneud â phlentyn unigol neu â pherson arall sy’n agored i niwed, caiff y fersiwn o’r penderfyniad hwnnw sy’n cael ei gyhoeddi hepgor, i’r graddau sy’n ofynnol er mwyn gwarchod preifatrwydd y person o dan sylw, cyfeiriadau at y materion hynny.

Afreoleidd-dra

60.(1)(1) Ni fydd afreoleidd-dra, sy’n tarddu o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheolau hyn, o gyfarwyddyd ymarfer neu o unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys cyn i’r Tribiwnlys gyrraedd ei benderfyniad yn peri, yn ei hunan, bod trafodion yr achos yn ddi-rym.

(2) Pan ddaw unrhyw afreoleidd-dra o’r fath i sylw’r Tribiwnlys, caiff y Tribiwnlys, os yw’n tybio y gallai unrhyw berson fod wedi ei ragfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi pa bynnag gyfarwyddiadau sydd, ym marn y Tribiwnlys, yn gyfiawn, er mwyn cywiro’r afreoleidd-dra, cyn cyrraedd ei benderfyniad.

(3) Caiff y Tribiwnlys, trwy dystysgrif wedi ei lofnodi gan y Llywydd neu gan Gadair y panel tribiwnlys o dan sylw, ar unrhyw adeg, gywiro camgymeriadau clerigol mewn unrhyw ddogfen sy’n cofnodi cyfarwyddyd neu benderfyniad gan y Tribiwnlys neu gan y Llywydd, ac a gafodd ei baratoi gan neu ar ran y Tribiwnlys, neu wallau mewn dogfennau o’r fath a gafodd eu hachosi gan lithriadau neu hepgorion damweiniol.

(4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon copi at bob parti o unrhyw fersiwn cywiriedig o ddogfen sy’n cynnwys rhesymau dros benderfyniad panel tribiwnlys.

(5) Pan fo person wedi penodi cynrychiolydd yn unol â rheol 17, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys (er gwaethaf rheol 13(10)) anfon copi o’r ddogfen sy’n cael ei chyfeirio ati ym mharagraff (4) at y person yn ogystal ag at y cynrychiolydd.

(6) Pan fo’n ofynnol o dan y Rheolau hyn bod Cadeirydd yn llofnodi dogfen, ond na all y Cadeirydd wneud hynny oherwydd marwolaeth neu analluedd, rhaid i aelodau eraill y panel tribiwnlys lofnodi’r ddogfen ac ardystio bod y Cadeirydd yn analluog i’w llofnodi.

Profi dogfennau ac ardystio penderfyniadau

61.(1)(1) Mae dogfen sy’n honni bod yn ddogfen a gafodd ei dyroddi gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ran y Tribiwnlys, i’w hystyried yn ddogfen a ddyroddwyd felly, oni fydd y gwrthwyneb yn cael ei brofi.

(2) Bydd dogfen sy’n honni ei bod wedi ei hardystio gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys fel copi cywir o ddogfen sy’n cynnwys penderfyniad panel tribiwnlys, yn dystiolaeth ddigonol o gynnwys y ddogfen honno, oni fydd y gwrthwyneb yn cael ei brofi.

Y dull o anfon, rhoi neu gyflwyno hysbysiadau a dogfennau

62.(1)(1) Rhaid i hysbysiad sy’n cael ei roi o dan y Rheolau hyn fod mewn ysgrifen a rhaid i barti y mae’n ofynnol iddo, o dan y Rheolau hyn, hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fater, wneud hynny mewn ysgrifen.

(2) Rhaid i hysbysiadau a dogfennau sydd i’w darparu o dan y Rheolau hyn gael—

(a)     eu hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf rhagdaledig at Ysgrifennydd y Tribiwnlys neu’u danfon â llaw i swyddfa’r Tribiwnlys neu ba bynnag swyddfa arall y bydd y partïon wedi’u hysbysi ohoni gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys,

(b)     eu hanfon drwy drawsyriad ffacsimili i’r rhif a gafodd ei bennu ar gyfer y Tribiwnlys,

(c)     eu hanfon drwy e-bost i’r cyfeiriad a chafod ei bennu ar gyfer y Tribiwnlys, neu

(d)     eu hanfon neu’u danfon drwy ba bynnag ddull arall sy’n cael ei ganiatáu gan y Tribiwnlys neu a gafodd ei gyfarwyddo gan y Tribiwnlys.

(3) Rhaid i barti sy’n anfon hysbysiad neu ddogfen at y Tribiwnlys drwy e-bost neu drawsyriad ffacsimili beidio â thrin yr hysbysiad neu’r ddogfen fel pe bai wedi ei ddanfon neu ei danfon oni fydd cydnabyddiaeth o hynny wedi ei derbyn gan y Tribiwnlys.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw parti’n darparu rhif ffacsimili, cyfeiriad e-bost neu fanylion eraill ar gyfer cyflwyno hysbysiadau neu ddogfennau, rhaid i’r parti hwnnw dderbyn danfon dogfennau drwy’r dull hwnnw.

(5) Os yw parti’n rhoi gwybod i’r Tribiwnlys ac i’r parti arall na ddylid defnyddio dull cyfathrebu penodol, ac eithrio’r post dosbarth cyntaf rhagdaledig neu ddanfon â llaw, i ddarparu dogfennau i’r parti hwnnw, rhaid peidio â defnyddio’r dull hwnnw o gyfathrebu.

(6) Os yw’r Tribiwnlys neu barti yn anfon dogfen at barti neu at y Tribiwnlys drwy e-bost neu unrhyw ddull cyfathrebu electronig arall, caiff y derbynnydd ofyn i’r anfonwr ddarparu copi caled o’r ddogfen honno i’r derbynnydd. Rhaid i’r derbynnydd wneud cais o’r fath cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y ddogfen yn electronig.

(7) Caiff y Tribiwnlys a phob parti gymryd yn ganiataol mai’r cyfeiriad sydd wedi ei ddarparu gan barti neu gynrychiolydd yw’r cyfeiriad y mae’n rhaid anfon neu ddanfon dogfennau iddo, ac y bydd yn parhau felly oni fyddant yn cael hysbysiad ysgrifenedig i’r gwrthwyneb.

(8) Ceir anfon yr hysbysiadau a’r dogfennau y mae Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn cael ei awdurdodi i’w hanfon, neu sy’n ofynnol iddo eu hanfon o dan y Rheolau hyn (yn ddarostyngedig i baragraff (10)) naill ai drwy’r post dosbarth cyntaf rhagdaledig, drwy drawsyriad ffacsimili, drwy e-bost, neu gellir eu danfon—

(a)     yn achos parti—

                           (i)    i gyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno fel y cafodd ei bennu yn yr hysbysiad cais neu mewn hysbysiad o dan baragraff (9), neu

                         (ii)    os nad oes cyfeiriad ar gyfer cyflwyno wedi ei bennu felly, i’r cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y parti hwnnw, a

(b)     yn achos unrhyw berson arall, i breswylfa neu fan busnes y person hwnnw, neu, os yw’r person yn gorfforaeth, i swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r gorfforaeth.

(9) Caiff parti, ar unrhyw adeg, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, newid cyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno o dan y Rheolau hyn.

(10) Rhaid defnyddio’r gwasanaeth danfon cofnodedig yn lle’r post dosbarth cyntaf i gyflwyno gwŷs sy’n mynnu cael presenoldeb tyst a ddyroddir o dan reol 41.

(11) Rhaid tybio bod hysbysiadau neu ddogfennau a gafodd eu hanfon gan y Tribiwnlys drwy’r post dosbarth cyntaf yn unol â’r Rheolau hyn, ac na chafodd eu dychwelwyd at y Tribiwnlys, wedi dod i law’r derbynnydd ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio oni ddangosir i’r gwrthwyneb.

(12) Rhaid tybio, oni ddangosir i’r gwrthwyneb, mai’r dyddiad postio yw’r dyddiad sy’n cael ei ddangos yn y marc post ar yr amlen sy’n cynnwys yr hysbysiad neu’r ddogfen.

(13) Rhaid tybio bod hysbysiad neu ddogfen a gafodd ei anfon gan y Tribiwnlys at barti drwy e-bost neu drawsyriad ffacsimili wedi ei ddanfon neu ei danfon pan fydd yr hysbysiad neu’r ddogfen cael eu derbyn mewn ffurf ddarllenadwy.

(14) Pan nad yw’n bosibl, oherwydd unrhyw reswm digonol, i gyflwyno unrhyw ddogfen neu hysbysiad yn y modd sy’n cael ei ragnodi o dan y rheol hon, caiff y Tribiwnlys naill ai hepgor y cyflwyno, neu wneud gorchymyn ar gyfer cyflwyno ym mha bynnag ddull amgen sydd, ym marn y Tribiwnlys, yn briodol, a bydd cyflwyno yn y dull amgen hwnnw’n cael yr un effaith â chyflwyno yn y modd sy’n cael ei ragnodi o dan y rheol hon.

Cyfrifo amser

63.(1)(1) Rhaid i weithred sy’n ofynnol gan y Rheolau hyn, gan gyfarwyddyd ymarfer, neu gan gyfarwyddyd ac sydd i’w gwneud ar ddiwrnod penodol neu erbyn diwrnod penodol gael ei gwneud erbyn 5pm ar y diwrnod hwnnw.

(2) Os yw’r amser sy’n cael ei bennu gan y Rheolau hyn, gan gyfarwyddyd ymarfer neu gan gyfarwyddyd ar gyfer gwneud unrhyw weithred, yn gorffen ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith, bydd y weithred wedi ei gwneud yn brydlon os yw wedi ei gwneud ar y diwrnod gwaith canlynol.

(3) Os yw’r amser ar gyfer cychwyn achos drwy gyflwyno’r hysbysiad cais i’r Tribiwnlys o dan reol 11 yn gorffen ar ddiwrnod rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr, gan gynnwys y dyddiadau hynny—

(a)     bydd yr hysbysiad cais wedi ei ddarparu’n brydlon os daw i law’r Tribiwnlys ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl 1 Ionawr, a

(b)     rhaid peidio â chyfrif y dyddiau rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr, gan gynnwys y dyddiau hynny, wrth gyfrifo’r amser erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud unrhyw weithred arall.

(4) Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys pan fo’r Tribiwnlys wedi cyfarwyddo bod rhaid i weithred gael ei gwneud erbyn dyddiad penodedig neu ar ddyddiad penodedig.

Llofnodi dogfennau

64. Pan yw’n ofynnol o dan y Rheolau hyn bod dogfen wedi ei llofnodi, bodlonir y gofyniad hwnnw—

(a)     os yw’r llofnod wedi ei ysgrifennu, neu

(b)     yn achos dogfen a ddanfonwyd trwy ddull electronig yn unol â’r Rheolau hyn, gan lofnod electronig y person y mae’n ofynnol iddo ei llofnodi.

 

 

Yr wyf yn gwneud y Rheolau hyn

 

Keith Bush CF

Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg

8 Ebrill 2015

 

Yr wyf yn caniatáu’r Rheolau hyn

 

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru

2 Ebrill 2015

 



([1])           2011 mccc 1.

([2])           1971 p. 80.

([3])           2000 p. 7.

([4])           O.S. 1998/3132 (fel y’i diwygiwyd).